Gwrth-hiliol

Sefydliad gwrth-hiliol yw MAD Abertawe. Darperir adnoddau ar gyfer ein Strategaeth Gwrth-hiliaeth a’n Cynllun Gweithredu sy’n seiliedig ar ddeilliannau (gan gynnwys amser, arbenigedd a chyllid),er mwyn eglurhau safbwynt a gwerthoedd MAD Abertawe: Pennu disgwyliadau clir am beth rydyn ni’n ei gynrychioli fel sefydliad gwrth-hiliol. Rydyn ni’n adolygu cynnydd yn rheolaidd, gan werthuso effeithiolrwydd gweithgarwch, ac yn gwneud newidiadau lle bo angen. Trwy feithrin diwylliant o ddiogelwch, dathlu a chefnogaeth, rydyn ni’n sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’n prosesau ffurfiol fel eu bod nhw’n gwybod bod ganddynt fecanwaith i godi llais, beth bynnag fo’r sefyllfa (cyfeirio’n syth ymlaen at y PrifWeithredwr/Cadeirydd cyn pen 24 awr). Rydyn ni’n cyfleu’r neges fod MAD Abertawe yn cymryd safiad yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu ar bob cyfl posibl.