Mae MAD Abertawe’n angerddol dros Waith Ieuenctid a Chymunedol ac mae’n credu
y dylai lleisiau pawb gael eu clywed ac y dylai pawb gael y cyfle i fod yn nhw eu
hunain ac i lewyrchu.
Mae ein gwaith bob amser mewn cydweithrediad â phobl ifanc ac aelodau o’r
gymuned, ac mae ein dulliau o weithio’n ddiragfarn ac yn seiliedig ar asedau;
rydyn ni’n addysgiadol, yn gyfranogol, yn fynegiannol, yn gynhwysol ac yn
ymbweru pobl. Mae hyn yn gyson â Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a
Dibenion, Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru a’r Safonau Galwedigaethol
Cenedlaethol.
Rydyn ni’n dwlu ar waith Ieuenctid a Chymunedol! Rydyn ni’n credu, fel elusen
Ieuenctid a Chymunedol gwrthdlodi, gwrth-hiliaeth ar lawr gwlad, bod RHAID i ni
beidio â goddef gwahaniaethu ac anghyfiawnder, a bod RHAID siarad allan yn erbyn
anghydraddoldeb er mwyn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, gweithio gyda phobl
ifanc a chymunedau sy’n cael eu gwthio i’r cyrion gan orthrwm systemaidd er mwyn
datgymalu’r strwythurau sy’n cynnal gwahaniaethu. Dim ond bryd hynny y bydd
Gwaith Ieuenctid a Chymunedol yn sbarduno newid ystyrlon ar gyfer pobl ifanc ac
yn creu cymunedau wedi eu hymbweru.
Rydyn ni’n credu bod Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol yn ysbrydoledig ac y
dylent gael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Dylent gael cyfleoedd i hyfforddi a
datblygu, fod â llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar Waith Ieuenctid a
Chymunedol, a derbyn cyflogau teg. Bydd hyn yn hyrwyddo llwybrau teg i mewn i
Waith Ieuenctid a Chymunedol ac yn golygu fod gan bobl ifanc a chymunedau
gefnogaeth Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol ag amrywiaeth o wahanol
hunaniaethau a phrofiadau bywyd.
Os ydych chi’n rhannu ein gwerthoedd a’n hangerdd dros Waith Ieuenctid a
Chymunedol, cysylltwch â ni!