Datganiad Polisi Diogelu
Pwrpas a chwmpas y datganiad polisi yma
Pwrpas y datganiad polisi yma yw:
- amddiffyn plant, pobl ifanc a phobl rhag niwed
- rhannu’r egwyddorion cyffredinol sy’n llywio ein dull o weithredu o ran diogelu â phawb.
Mae’r datganiad polisi hwn yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio ar ran/gyda MAD Abertawe, gan gynnwys plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl, cyflogeion, gwirfoddolwyr, Ymddiriedolwyr, gweithwyr llawrydd, partneriaid, aelodau o’r gymuned a chontractwyr (ac unrhyw randdalwyr eraill).
Y fframwaith cyfreithiol
Lluniwyd y datganiad polisi hwn ar sail deddfwriaeth, polisi a chanllawiau â’r nod o ddiogelu pobl yng Nghymru. Gellir cael crynodeb o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau allweddol yn:
Diogelu | Cyfraith Cymru (llyw.cymru)
nspcc.org.uk/childprotection
Dogfennau ategol
Mae’r datganiad polisi hwn yn gyson â pholisïau sefydliadol, gweithdrefnau, canllawiau a dogfennau cysylltiedig eraill MAD Abertawe (sydd ar gael ar gais), gan gynnwys:
- Y Polisi a’r Gweithdrefnau Diogelu
- Y Polisi a’r Gweithdrefnau Diogelu Digidol
- Disgrifiad o rôl yr Arweinydd Diogelu Dynodedig, y Dirprwy Arweinydd Diogelu a’r Arweinydd Diogelu ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
- Delio â datgeliadau a phryderon
- Rheoli honiadau yn erbyn Ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr
- Cofnodi pryderon a rhannu gwybodaeth
- Cadw a storio cofnodion diogelu
- Cod ymarfer
- Y cyfryngau cymdeithasol, delweddau a Diogelu Data
- Y Polisi a’r Gweithdrefnau Recriwtio Cynhwysol (gan gynnwys recriwtio mwy diogel)
- Diogelwch ar lein
- Atal bwlio
- Rheoli cwynion
- Chwythu’r Chwiban
- Iechyd a diogelwch
- Cyflwyno staff newydd, hyfforddiant, adroddiadau ar gynnydd a gwerthusiadau, cyfathrebu a chymorth.
Rydyn ni’n credu:
- na ddylai neb byth brofi camdriniaeth o unrhyw fath
- bod cyfrifoldeb arnom i hybu lles pawb, i’w cadw nhw’n ddiogel ac ymarfer mewn ffordd sy’n eu hamddiffyn.
Rydyn ni’n cydnabod:
- bod lles pobl o’r pwys mwyaf yn yr holl waith a wnawn ac yn ein holl benderfyniadau
- bod gweithio mewn partneriaeth â’r holl randdalwyr yn hanfodol er mwyn hybu lles pobl
- bod gan bawb yr un hawl i amddiffyniad rhag pob math o niwed neu gamdriniaeth
- y gall fod angen mesurau diogelu ychwanegol i gadw pobl yn ddiogel.
Byddwn ni’n ceisio cadw pobl yn ddiogel trwy:
- eu gwerthfawrogi, gwrando arnynt a’u parchu
- penodi Arweinydd Diogelu Dynodedig, y Dirprwy Arweinydd Diogelu a’r Arweinydd Diogelu ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
- mabwysiadu arferion gorau o ran diogelu trwy ein polisïau, ein gweithdrefnau a’n codau ymddygiad
- datblygu a gweithredu Polisi Diogelu Digidol effeithiol a gweithdrefnau cysylltiedig
- darparu rheolaeth effeithiol ar gyfer Ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr trwy adolygiadau o gynnydd a gwerthusiadau, cymorth, hyfforddiant, cyfathrebu, arferion myfyrgar a mesurau sicrhau ansawdd fel eu bod oll yn gwybod am ein polisïau, gweithdrefnau a chodau ymarfer ac yn eu dilyn yn hyderus ac yn fedrus
- cofnodi a storio a defnyddio gwybodaeth yn broffesiynol ac yn ddiogel, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau diogelu data. Mae MAD Abertawe wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Yr ICO yw corff annibynnol y DU a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth. Ein cyfeirnod cofrestru gydag ICO yw: ZB383136
- rhannu gwybodaeth am ddiogelu ac arferion da â phobl trwy nifer o sianelau, gan gynnwys mewn byrddau strategol a thrwy weithredu ein Strategaeth Cyfathrebu
- sicrhau bod pobl yn gwybod ble i droi am gymorth os oes pryderon ganddynt
- defnyddio ein gweithdrefnau diogelu i rannu pryderon a gwybodaeth berthnasol mewn ffordd briodol
- defnyddio ein gweithdrefnau i reoli unrhyw honiadau mewn ffordd briodol
- creu a chynnal amgylchedd gwrth-fwlio a sicrhau bod gennym bolisi a gweithdrefn i’n helpu ni i ddelio’n effeithiol ag unrhyw fwlio sy’n digwydd
- sicrhau bod gennym fesurau effeithiol ar gyfer cwyno a chwythu’r chwiban
- sicrhau ein bod ni’n darparu amgylchedd ffisegol diogel, trwy gymhwyso mesurau iechyd a diogelwch yn unol â’r gyfraith a chanllawiau rheoliadol
- meithrin diwylliant o ddiogelu lle mae pobl yn eu trin ei gilydd â pharch ac yn teimlo’n gyffyrddus ynghylch rhannu pryderon.
Manylion cysylltu
Yr Arweinydd Diogelu Dynodedig
Enw: Charlotte Davies
E-bost: charlotte@madswansea.com
Ffôn: 07961499012
Arweinydd Diogelu’r Ymddiriedolwyr
Enw: Candice Lloyd
E-bost: cand@thedoidea.co
Llinell Gymorth yr NSPCC
Dydd Llun – Dydd Gwener (10am – 3pm)
0808 800 5000
Un Pwynt Cyswllt Plant Abertawe
Dydd Llun – Dydd Iau (8.30am – 5pm)
Dydd Gwener (8.30am – 4.30pm)
01792 635180
Tîm Diogelu Oedolion Abertawe
Dydd Llun – Dydd Iau (8.30am – 5pm)
Dydd Gwener (8.30am – 4.30pm)
01792 636854
Tîm Dyletswydd Brys Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe (y tu hwnt i oriau swyddfa)
https://www.swansea.gov.uk/contactemergencydutyteam
01792 775501
Rydyn ni’n adolygu ein Polisïau Diogelu, ein gweithdrefnau ac arferion da yn flynyddol.
Darperir hyfforddiant trwy’r hyfforddiant cychwynnol a phob 6 mis wedyn.
Dyddiad adolygu diwethaf y polisi hwn: Chwefror 2026
Charlotte Davies, Prif Weithredwr
