Mae gwefan Swansea Music Art Digital yn dweud wrthych eu bod yn defnyddio creadigrwydd i greu newid cymdeithasol. Mae llawer o sefydliadau yn gwneud honiadau tebyg, ond mae Swansea MAD yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Yn gyntaf maent yn dangos creadigrwydd gwirioneddol, gan gynhyrchu gwaith dychmygus i’r safon broffesiynol uchaf gyda’r lleiaf o ffwdan. Yn ail, mae eu hymrwymiad i newid cymdeithasol cadarnhaol yn wirioneddol ac wedi’i wreiddio’n ddwfn. Nid oes unrhyw sefydliad yng Nghymru yn fwy ymrwymedig i roi gwybodaeth i bobl ifanc a’u grymuso. Mae hynny bob amser wedi bod yn bwysig, ac ar hyn o bryd mae’n bwysicach nag erioed.

Ym mis Hydref 2020, es i at Swansea MAD gyda chais dylunio brys. Roedd ar gyfer prosiect yn agos at fy nghalon a gofynnais am rywbeth trawiadol yn weledol, proffesiynol ac iddynt ei gwblhau’n gyflym iawn, iawn. O fewn dyddiau, ac ymhell o fewn terfyn amser afresymol o dynn, cefais yr union beth yr oeddwn ei angen. Roedd eu cyfathrebu yn gyflym, yn fanwl ac yn glir, ac roedd y cynnyrch terfynol o’r radd flaenaf ym mhob ffordd, yn llawer gwell na’m disgwyliadau. Mae’n bleser gennyf argymell Swansea MAD yn ddiamod.