Mae MAD Abertawe wrth ei fodd i fod yn un o 11 sefydliad yng Nghymru sy’n derbyn cyllid gan Gronfa Cysylltu Cymunedau’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.  

Sefydlwyd y Comisiwn gan Lywodraeth Cymru fel corff annibynnol i edrych ar opsiynau o ran sut y gallai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol. 

Mae’r Comisiwn yn cychwyn sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru, ac mae’n awyddus i glywed gennych chi. 

Trwy weithgareddau creadigol a chysylltiadau, byddwn ni’n gweithio gyda phobl i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn y sgwrs genedlaethol ac i archwilio cwestiynau fel: Pa fath o Gymru ydych chi eisiau byw ynddi?

Beth sy’n dda am y ffordd y mae Cymru’n cael ei rhedeg ar hyn o bryd?

Beth sydd angen newid am y ffordd y mae Cymru’n cael ei rhedeg ar hyn o bryd?

Beth yw’ch gobeithion chi am ddyfodol Cymru?

Ydych chi’n gwybod pwy sy’n gwneud penderfyniadau am sut y mae Cymru’n cael ei rhedeg?

Ydych chi’n teimlo bod gennych lais yn y ffordd y mae Cymru’n cael ei rhedeg?

I gael rhagor o fanylion am y Comisiwn ac i ymateb i’r ymgynghoriad, ewch i: https://gov.wales/have-your-say-the-constitutional-future-of-wales