Datganiad Gweledigaeth

Mae Swansea MAD yn gweithio dros fyd teg, lle gall pobl fod ynddyn nhw eu hunain a ffynnu!

 

Pwy ydyn ni

Mae Swansea MAD yn elusen ieuenctid a chymunedol ar lawr gwlad, sy’n brwydro yn erbyn tlodi, yn wrth-hiliol, o blaid cydraddoldeb, o blaid yr amgylchedd, yn gynhwysol ac sy’n anoddefgar o wahaniaethu ac anghyfiawnder. Wedi’i sbarduno gan hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a thegwch, rydym yn gweithio mewn clymblaid â phobl ifanc a chymunedau sydd wedi’u gwthio i’r cyrion gan ormes systemig i ddatgymalu strwythurau sy’n cefnogi gwahaniaethu.

 

Cenhadaeth

Cynhelir gweithgareddau yn Swansea MAD ar gyfer atal tlodi, hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a thegwch; gan fynd i’r afael â rhwystrau y mae pobl ifanc a chymunedau yn dweud wrthym eu bod yn eu hwynebu. Rydym yn ceisio gwella bywydau pobl, drwy barhau i ddatblygu mannau diogel cynhwysol i bobl gael mynediad at eiriolaeth, y celfyddydau creadigol, addysg, mynediad digidol, cymorth cyflogadwyedd, hyfforddiant, gweithgareddau ymgyrchu a phrosiectau i ddod â thegwch a pherthyn ac i ddylanwadu ar newid er gwell.

 

Hanes

Mae Swansea MAD wedi bod yn cefnogi pobl ifanc a chymunedau yn Abertawe a ledled Cymru, ers 2009.

Dros amser yr hyn sydd wedi aros yr un fath yw nad yw pob person ifanc a chymuned yn cael mynediad at gyfleoedd y gallant ffynnu ynddynt. Rydym eisiau tegwch i bobl ifanc a chymunedau ac i bethau newid!

Rydym wedi parhau i ymateb i anghenion pobl ifanc a chymunedau yn Abertawe a ledled Cymru, gan ddod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) ym mis Awst 2020.

 

Gwerthoedd

Gan weithio gydag uniondeb, tryloywder, dilysrwydd a thosturi, ar gyfer Swansea MAD, llais pobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fydd yn dod gyntaf bob amser.

Mae ein gwerthoedd yn ymwneud â brwydro dros gydraddoldeb a chyfiawnder, darparu cyfleoedd a dal ein hunain a phobl mewn grym yn atebol i bobl ifanc a chymunedau wedi’u grymuso; sicrhau eu bod yn cael eu trin â pharch ac urddas ac nad ydynt yn cael eu symboleiddio na’u hecsbloetio.

 

 

Cwrdd â’r tîm

Charlotte Davies [hi/hithau]

Charlotte Davies [hi/hithau]

Prif Weithredwr

Mae gen i 25 mlynedd o brofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a chymunedau, gan gynnwys fel Gweithiwr Ieuenctid, Darlithydd, Gofalwr Maeth, Mentor, Cwnselwr a Rheolwr Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.

Mae cyfiawnder cymdeithasol a brwydro dros gydraddoldeb wedi bod yn genhadaeth i mi ers pan oeddwn i’n blentyn. Helpodd fy mhrofiadau cynnar o orymdeithio dros y glowyr yng Nghymru fel plentyn i ffurfio’r person y gwelwch chi heddiw a’r profiadau hyn a sbardunodd fy ymroddiad i frwydro dros hawliau dynol. Rydw i wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Abertawe am y rhan fwyaf o’m hoes ac rwy’n angerddol dros y ddinas a’i phobl.

Cysylltwch os ydych am gael sgwrs! 

charlotte@madswansea.com

Dave Berry [ef/fe]

Dave Berry [ef/fe]

Yn ystod fy mhlentyndod, er mwyn gallu parhau gyda’m hobsesiwn gyda cherddoriaeth, adeiladais fy nghyfrifiadur cyntaf a gwnaeth hynny ganiatáu i mi ddechrau cynhyrchu cerddoriaeth. Wrth astudio, roeddwn yn dysgu dosbarthiadau mewn Technoleg Cerddoriaeth ac amryw o apiau gwe Adobe. Roedd hyn o gymorth mawr i mi i ddatblygu angerdd dros ddysgu. Tua’r adeg hon, dechreuais rith-gynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer artistiaid amrywiol ar-lein a dechreuais gwmni atgyweirio cyfrifiaduron. Yn dilyn hynny, penderfynais ddychwelyd i’r byd academaidd i astudio Rhwydweithiau Cyfrifiadurol gan gymhwyso fel peiriannydd rhwydwaith Cisco.  

Ymunais â Swansea MAD er mwyn i mi allu defnyddio’r ystod eang o dechnolegau rydw i wedi dysgu sut i’w gweithredu dros y blynyddoedd yn ogystal â chefnogi’r rhai nad ydyn nhw’n defnyddio technoleg ar hyn o bryd a datblygu’r rhai sydd eisoes ar eu taith.

dave@madswansea.com

Freddy Hathaway [ef/fe]

Freddy Hathaway [ef/fe]

Creawdwr Cynnwys Digidol

Ers pan oeddwn i’n ifanc iawn, mae sin y celfyddydau, cerddoriaeth ac adloniant byw wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd. Mae mynychu sioeau, chwarae offerynnau, ac ymdrwytho mewn gwahanol fathau o gynnwys digidol wedi meithrin gwerthfawrogiad dwfn o bŵer y cyfryngau fel dull o fynegi a chysylltu ynof fi. Mae gen i radd BSc mewn Cynhyrchu’r Cyfryngau, felly treuliais i dair blynedd yn astudio ac yn datblygu gwybodaeth am fyd y cyfryngau cymdeithasol, cynhyrchu sain, dylunio graffeg, ffotograffiaeth, prosesau ôl-gynhyrchu fideo, ffilm, a rhaglenni dogfen teledu. Mae fy angerdd ond wedi tyfu’n gryfach dros amser, a dyna sydd wedi fy sbarduno i ddilyn gyrfa yn y diwydiant. Ers graddio, rydw i wedi ceisio rhagor o gyfleoedd ar gyfer datblygiad a thwf. Roeddwn i’n arfer mynychu gweithdai Cynhyrchu Cerddoriaeth rheolaidd gyda MAD Abertawe a gwirfoddoli fel peiriannydd sain ar gyfer gwyliau a chanolfannau lleol. Rydw i wedi cael y cyfle hefyd i weithio’n annibynnol fel technegydd sain, gan
wneud gwaith gosod cefn llwyfan a chymysgu sain ar gyfer amryw o ddigwyddiadau
yn Nhŷ Tawe, canolfan gerddoriaeth Gymreig Abertawe. At hynny, rydw i wedi ennill sgiliau gwerthfawr trwy fy niddordebau personol fy hun. Fel cerddor a chreawdwr cynnwys fy mand, rwy’n cynhyrchu ac yn cysyniadoli cynnwys amlgyfwng ar draws amryw o blatfformau digidol a’r cyfryngau
cymdeithasol. Rhoddodd mynychu gweithdai wythnosol gyda MAD Abertawe am dros flwyddyn
gyfleoedd amhrisiadwy i mi dyfu. Darparodd hyn amgylchedd i mi gynhyrchu a chydweithio ag unigolion o’r un anian o amrywiaeth eang o ddiwylliannau a chefndiroedd. Rwy’n llawn cyffro am y cyfle i weithio gyda thîm sydd wedi ymrwymo i chwalu’r rhwystrau, ac i barhau i gefnogi’r dalent anhygoel a’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal o fewn MAD Abertawe ac yng nghymuned Abertawe ar led.

freddy@madswansea.com

Madeline Sheldon [hi/hithau]

Madeline Sheldon [hi/hithau]

Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol

Gyda dros 7 mlynedd o brofiad fel swyddog Teuluoedd a Phobl Ifanc, rydw i wedi gweithio’n angerddol i gynorthwyo teuluoedd i gael yr addysg a’r adnoddau angenrheidiol i fodloni eu hanghenion dysgu ychwanegol. Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod pob unigolyn yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i lewyrchu. Rwy’n llawn cyffro i ymuno â MAD Abertawe ac yn edrych ymlaen at barhau â’m cenhadaeth i ymbweru a rhoi llais i bobl.

madeline@madswansea.com

Michalina Radecka [hi/hithau]

Michalina Radecka [hi/hithau]

Fe ddes i i Abertawe i astudio’r Gwyddorau Meddygol yn y brifysgol. Yn ystod fy astudiaethau, roeddwn i’n gweini mewn bwyty Portiwgeaidd ac fel cynorthwyydd gofal iechyd mewn cartref nyrsio lleol. Ar ôI graddio, cychwynnais fy swydd gyntaf ym maes ymchwil clinigol. Y tu hwnt i oriau gwaith rydw i wedi bod yn Hyfforddwr Personol, ac rwy’n angerddol am ddylunio graffeg a marchnata trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Rydw i wedi bod yn defnyddio fy nghefndir ym maes y gwyddorau a fy sgiliau cyfathrebu neilltuol i hybu iechyd a llesiant ar draws amryw o blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.

Wrth archwilio gwahanol gyfleoedd gyrfaol doeddwn i ddim yn chwilio am swydd mwyach, ond roeddwn i am wasanaethu pobl gyda phwrpas, gan eu cynorthwyo i ofalu am eu hunain ac i fynd ar ôl y pethau maent yn angerddol yn eu cylch yn llawn hyder. Yn fy marn i, nid oes unrhyw gyfyngiad ar faint y gall pobl ei ddysgu, felly rydw i’n chwilio’n barhaus am gyfleoedd newydd i feithrin ac esblygu fy nawn greadigol. Dyna pam fy mod i wedi ymuno â MAD Abertawe: mae hi’n cyd-fynd yn llwyr â fy nghenhadaeth i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bawb.

Rydw i wrth fy modd i ychwanegu fy arbenigedd a’m hangerdd at y cyfryngau cymdeithasol at dîm mor flaengar ac i weld fy hun yn tyfu ac yn datblygu gyda MAD Abertawe.

michalina@madswansea.com

Rachel Benson [hi/hithau]

Rachel Benson [hi/hithau]

Codi Arian a Chynaliadwyedd

Mae gen i 10 mlynedd o brofiad yn y sector Gwaith Ieuenctid a Chymunedol yng Nghymru, fel Gweithiwr Cymorth, Rheolwr Cydraddoldeb, Ymddiriedolwr a Thiwtor AU. Mae cyfiawnder cymdeithasol, cynhwysiant a gweld pobl yn cael mynediad i fannau diogel lle maen nhw’n teimlo fel eu bod nhw’n perthyn yn fy sbarduno. 

rachel@madswansea.com

.

Candice Lloyd [hi/hithau]

Candice Lloyd [hi/hithau]

Is-gadeirydd / Arweinydd Diogelu’r Bwrdd

Fel mam falch i bump o blant, ac yn byw ym Mro Morgannwg, dechreuodd gyrfa Candice ym maes Addysg y Blynyddoedd Cynnar lle enillodd ei thîm Wobr Pearson am Addysg. Ers hynny, mae hi wedi gweithio ar draws Llywodraeth Cymru, y byd Addysg a’r Trydydd Sector i ddod yn Hyfforddwr, Eiriolwr ac Awdur Rhaglenni profiadol iawn â ffocws ar atebion. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau gyda NYAS Cymru (sy’n gweithio gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn Gofal) ac yn Gyfarwyddwr a Sylfaenydd Folk Training.  Mae Candice yn Hyfforddwr Diogelu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn arweinydd grŵp Gwirfoddoli Cyswllt y Camerados Community yn y Barri.  

Mae Candice yn eiriolwr angerddol dros hawliau pobl ac o weithio gyda, ac arbrofi â methodoleg greadigol sy’n ysbrydoli gwir newid. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ei ffocws wedi bod ar weithio i greu systemau a mannau i gynorthwyo pobl ifanc â’u hiechyd meddwl a’u llesiant. Hi yw cyd-sylfaenydd Do Idea Co. Sy’n gwmni dylunio cymdeithasol.  

Dyfyniad: “Mae MAD Abertawe’n fendigedig! Rydw i mor falch o fod yn rhan o grŵp mor rhyfeddol o unigolion, sydd wir yn estyn allan ac yn gwneud newidiadau mawr yn y gymuned ac mewn ardaloedd ehangach. Mae arloesi a thosturi wrth galon yr holl waith y maent yn ei wneud, ac maen nhw wir yn newid tirwedd y sector elusennol.”

Sgiliau: Gwaith Ieuenctid ac Addysg, Rheoli Gwirfoddolwyr, Llesiant, Hwyluso, Creu Adnoddau Addysg, Cyd-gynhyrchu, Gwerthuso, Siaradwr Ysbrydoledig, Eiriolaeth, Hyfforddiant, Dylunio, Diogelu, Hyfforddi’r Hyfforddwr, Makaton

Leigh Rowland [ef/fe]

Leigh Rowland [ef/fe]

Ymddiriedolwr / Yr Is-bwyllgor Cyllid ac Archwilio

Mae’r rhan fwyaf o yrfa Leigh wedi bod ym maes Gwaith Ieuenctid. Dechreuodd weithio fel Gweithiwr Ieuenctid ym 1998, gan gyflawni dros 40 awr o Waith Ieuenctid wyneb yn wyneb bob wythnos. Daeth yn Rheolwr Prosiect a chwaraeodd ran wrth ddatblygu Randomz, academi Menter Gymdeithasol arloesol a ddenodd gydnabyddiaeth ar draws Ewrop am dorri tir newydd. Datblygodd ei gymwysterau trwy Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol Llundain, wedyn cafodd ei Benodi’n Brif Weithredwr Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ennill Nod Ansawdd Lefel Aur am Waith Ieuenctid yng Nghymru. Ar yn o bryd, mae’n rhedeg ei fusnes Eiddo, Morgeisi, Gosod ac Yswiriant ei hun. Mae’n angerddol ynghylch cynorthwyo pobl ifanc i ddod o hyd i’w cartref cyntaf.

Dyfyniad: “Mae hi’n anrhydedd i mi gael bod yn rhan o Elusen fel MAD Abertawe. Pan ofynnwyd i mi fod yn aelod o’r Bwrdd, roedd hi’n braf iawn gwybod y byddwn i’n cael fy amgylchynu gan bobl mor ddawnus llawn gweledigaeth, ar y Bwrdd ac ar draws elusen i gyd. Mae datblygiad yr Elusen ac ansawdd y gwasanaeth y mae’n ei ddarparu wedi fy rhyfeddu yn llwyr. Rydw i wedi dysgu gymaint gan fy nghyd-aelodau o’r Bwrdd a’r Uwch Dîm Rheoli ym MAD Abertawe, sydd wedi helpu fy natblygiad personol, a gallaf ddefnyddio’r hyn rydw i wedi ei ddysgu yn fy mywyd personol a’m busnes hefyd. Alla’i ddim â diolch digon i MAD Abertawe am y cyfle i chwarae rhan.”

Sgiliau: Arweinyddiaeth Feirniadol, Rheoli Prosiectau, Cyswllt Recriwtio, Ymgynghori, Adnoddau Dynol, Pennu Cyllidebau, Gwrando Gweithredol, Rheoli, Cyllid, Menter Gymdeithasol, Hyfforddiant, Gwaith Ieuenctid, Cyfathrebu a Marchnata, Codi Arian, Rheoli Partneriaethau, Diogelu, Diogelu Data

Stevie Thomas [hi/hithau]

Stevie Thomas [hi/hithau]

Ymddiriedolwr / Trysorydd / Is-bwyllgor Cyllid ac Archwilio

Dechreuodd Stevie hyfforddi fel Meddyg ym Mhrifysgol Bryste, a pharhaodd i ddilyn y trywydd gwyddonol, gan raddio yn y Gwyddorau Anatomeg. Ailhyfforddodd yn y Gyfraith wedyn cyn mynd i weithio ym maes Esgeulustod Clinigol mewn cwmni blaenllaw yn y ddinas yn Llundain. Yn y pendraw, roedd ei chariad at gerddoriaeth yn drech na’r cyfan, a chymerodd y cam i fyd y gyfraith cerddoriaeth. Mae anturio yn ei natur, ac mae hi wedi teithio, byw a gweithio mewn nifer o wahanol ddinasoedd a gwledydd gydag amrywiaeth eang o unigolion o bob proffesiwn, oedran a chefndir.

Dyfyniad: “Mae’r cyfle i wirfoddoli fel un o Ymddiriedolwyr MAD Abertawe’n fraint, ac rwy’n gobeithio fy mod i’n dod ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd a gwybodaeth i fy ngwaith yn y sector elusennau. Mae hi’n fraint cael fy mhenodi’n Drysorydd. Rydw i mor ddiolchgar cael bod yn aelod o dîm sy’n gweithio i gynorthwyo gwaith bendigedig yn Abertawe ac ar draws Cymru, a gyda chriw o bobl mor ddawnus ac arloesol. Rydyn ni’n gweld yr elusen yn llewyrchu, gan wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cynifer o bobl. Mae hi’n gymaint o fraint cael gweithio tuag at hwyluso cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc a’r aelodau o’r gymuned sydd angen y cyfleoedd hyn.” 

Sgiliau: Rheoli Newid, Cynaliadwyedd, Meddygaeth, Gwasanaethau Cyfreithiol, Rheoli, Archwilio Ariannol, Paratoi Cyfrifon, y Gyfraith Cerddoriaeth, Cynllunio Strategol, Cysylltiadau Cyhoeddus, Rheoli Risg 

Mymuna Soleman [hi/hithau]

Mymuna Soleman [hi/hithau]

Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr / Is-bwyllgor y Pwyllgor Cyllid ac Archwilio

Daw Mymuna o dras Somalaidd a chafodd ei geni a’i magu yng Nghaerdydd. Mae hi’n hynod o angerddol dros amrywiaeth a chydraddoldeb, ond yn bwysicach na dim, cynrychiolaeth gyfartal i fenywod Mwslimaidd groenliw. Mae ganddi radd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gradd Meistr ym maes Iechyd y Cyhoedd; y naill a’r llall o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn ystod cyfnod clo COVID-19, sefydlodd The Privilege Café am ei bod hi’n teimlo’n rhwystredig gyda’r diffyg amrywiaeth, ac yn teimlo nad oedd hi’n gallu ei mynegi ei hun fel menyw groenliw mewn mannau llawn braint. Hwylusodd sesiynau wythnosol ar Zoom oedd yn trafod amryw o wahanol themâu gan gynnwys iechyd meddwl, rhagfarn ‘ddiarwybod’ a braint yn y broses recriwtio. Mae lefel y cysylltiad wedi bod yn anhygoel, ac mae dirnadaeth, gwybodaeth ac arbenigedd y siaradwyr gwadd wedi llenwi pawb sydd wedi mynychu’r sesiynau â theimladau cadarnhaol. Mae’r Caffi’n agored i bawb, mae’n lle diogel i bawb i gysylltu â’i gilydd, dysgu a defnyddio eu braint er lles.

Dyfyniad: “Rydw i wrth fy modd i fod yn rhan o Fwrdd hynod o amrywiol MAD Abertawe. Mae MAD Abertawe’n cyflawni gwaith gwych, yn gweithio gyda phobl o gymunedau o bob cefndir mewn ffordd drugarog heb unrhyw feirniadaeth, ystrydebu na rhagfarn. Datblygu Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb sy’n gyrru gwerthoedd MAD Abertawe, ac mae hyn yn gyson â fy ngwerthoedd i sy’n deillio o frwdfrydedd i ddatod y systemau strwythurol sy’n creu rhwystrau i gynifer o bobl yn y gymdeithas. Rwy’n credu’n gryf mewn ethos o fod yn sefydliad gwrthdlodi, gwrth-hiliaeth ac sydd o blaid cydraddoldeb, fel elusen, fel pobl ac fel unigolion, gan anelu bob tro at gynyddu effaith ein gwaith o fewn ein cymunedau.”

Sgiliau: Hwyluso, Gwrth-hiliaeth, Ymgynghori Cymunedol, Gweithredu, Iechyd y Cyhoedd, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynrychiolaeth, Siarad Cyhoeddus, Ymgyrchu, Addysg a Hyfforddiant, Rheoli Newid, Arferion Cynhwysol, y Gymraeg, Polisi Cyhoeddus

Anna Arrieta [hi/hithau]

Anna Arrieta [hi/hithau]

Ymddiriedolwr

Gweithiwr ieuenctid yw Anna ac mae ganddi brofiad o gydlynu prosiectau ar gyfer pobl ifanc mewn Elusen Ieuenctid Cenedlaethol, ac o reoli digwyddiadau byw. Anna yw Pennaeth Cynhyrchu It’s My Shout, sy’n darparu hyfforddiant ar gyfer pobl sydd am ennill profiad ym maes Cynhyrchu Ffilm a Theledu. Mae ganddi brofiad arbenigol ym maes prosiectau’r celfyddydau creadigol, gan ddatblygu a darparu sesiynau cerddoriaeth â’r nod o ymbweru pobl ifanc i gyflawni eu potensial trwy fynegiant artistig.

Mae hi wedi dylunio a chydlynu prosiectau ym meysydd y celfyddydau creadigol, llesiant, sgiliau ariannol, democratiaeth a chyfleoedd cyfartal. Mae ganddi brofiad o ddatblygu adnoddau ar gyfer pobl ifanc, a datblygu a hwyluso sesiynau hyfforddi ar gyfer pobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn y sector Ieuenctid a Chymunedol. Ers ymadael â’r ysgol, mae hi wedi ymrwymo’i bywyd proffesiynol i’r Trydydd Sector. Gan adeiladu ar ei sgiliau a’i phrofiad, mae hi’n Ymddiriedolwr gyda Theatr Genedlaethol Cymru hefyd. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n canu ac yn perfformio, ac yn adolygu llefydd bwyta lleol ar ei thudalen Instagram @flavahoodwatch.

Dyfyniad: “Rydw i ar Fwrdd MAD Abertawe am fy mod i’n dwlu ar ethos y sefydliad. Mae eu gwaith dros bobl a chymuned Abertawe’n troi o gylch y person, ac yn cael ei arwain gan staff sydd, yn ogystal â bod yn arbenigwyr yn eu meysydd, wedi ymrwymo i newid bywydau pobl. Rwy’n teimlo bod y pwrpas yma’n gyson â fy egwyddorion a’m gwerthoedd i, ac rwy’n dwlu bod yn aelod o Fwrdd sefydliad sydd mor gynhwysol ac agored. Mae dulliau MAD o weithredu’n wahanol i unrhyw beth arall rydw i wedi ei weld yn y sector, ac maen nhw’n pennu’r safonau a’r arferion gwaith rwy’n credu y dylai sefydliadau eraill eu dilyn. Nid ‘ceidwaid pyrth’ yw MAD Abertawe, maen nhw’n cydweithio ac yn gweithio gydag eraill yn y sector er budd aelodau’r gymuned. Rwy’n falch o fod yn aelod o’r Bwrdd lle mae fy safbwyntiau a’m llais yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi”.

Sgiliau: Newid, Cynaliadwyedd, Cysylltu Cymunedau, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cyfleoedd Cyfartal, Brwydro yn erbyn Rhagfarn ar sail Oedran, Gwaith Ieuenctid, Cerddoriaeth, Ffilm a Theledu, Rheoli Digwyddiadau, Lleoliadau a Llwyfan, Castio, Sain ac Awdio, Rheoli Prosiectau, Cyfathrebu a Marchnata, y Cyfryngau

Matthew Howell [ef/fe]

Matthew Howell [ef/fe]

Ymddiriedolwr

Mae Dr Matthew Howell yn Ddarlithydd Troseddeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen BSc Troseddeg a Chymdeithaseg y Brifysgol. Mae ei waith addysgu ac ymchwil yn canolbwyntio ar gynhwysiant cymdeithasol, cyfiawnder cymdeithasol, profiadau pobl ifanc a chymunedau, a sut y mae pobl yn rhyngweithio â’r mannau a’r sefydliadau o’u cwmpas.
Yn ei waith ymchwil cyfredol mae’n gweithio’n gydweithredol ag aelodau o’r gymuned i archwilio sut y gellir gwneud mannau cyhoeddus a rennir yn fwy diogel, yn fwy hygyrch ac yn fwy cynhwysol i’r gwahanol bobl sy’n eu defnyddio. Mae’r gwaith yma’n cyfuno profiadau byw a gwybodaeth y gymuned er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r sialensiau y mae pobl yn eu hwynebu mewn mannau a rennir, a datblygu atebion ystyrlon ar gyfer yr ardaloedd lleol o dan sylw.
Mae gan Matthew brofiad sylweddol o weithio gyda phobl ifanc yn unionyrchol, ar ôl treulio deng mlynedd fel gweithiwr ieuenctid yn Abertawe a Chaerdydd. Mae’r profiad yma’n parhau i lywio ei ymrwymiad i ddulliau cyfranogol a chymunedol o weithio sy’n sicrhau bod lleisiau pobl ifanc a chymunedau’n cael eu cynrychioli mewn ffordd ystyrlon mewn gwaith ymchwil a phenderfyniadau.

Ashleigh Cullen [hi/hithau]

Ashleigh Cullen [hi/hithau]

Ymddiriedolwr

Yn gweithio fel Seicolegydd Cynorthwyol yn y GIG ar hyn o bryd, mae gan Ashleigh gyfoeth o brofiad o weithio ar draws y trydydd sector ac ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol. Angerdd mawr Ashleigh yw iechyd meddwl pobl ifanc, gan gydnabod yr angen am ddarpariaeth sy’n hygyrch ac yn canolbwyntio ar y person, lle gall gwasanaethau gydweithio er budd gorau lles pobl ifanc a’r gymuned.

Mae Ashleigh yn gweithredu yn ei hamser rhydd, fel eiriolydd dros gynwysoldeb, trugaredd, materion amrywiaeth, yr amgylchedd ac yn erbyn llygredigaeth. Fel aelod gweithredol o Gymunedau Di-blastig a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae Ashleigh i’w gweld yn aml yn clirio plastig oddi ar ein traethau a’n llwybrau natur.