Datganiad Preifatrwydd Teledu Cylch Cyfyng

Mae MAD Abertawe’n defnyddio delweddau teledu cylch cyfyng (CCTV) er mwyn darparu amgylchedd diogel.

Ein Swyddog Diogelu Data (DPO) sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r rheolau diogelu data yn MAD Abertawe.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y Datganiad Preifatrwydd yma neu sut rydyn ni’n ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’r DPO – Rachel Benson, rachel@madswansea.com 

Cyn gosod CCTV, fe gyflawnon ni asesiad o’r effaith ar breifatrwydd er mwyn sicrhau ein bod ni’n cydbwyso ein hangen am CCTV â’r effaith ar eich preifatrwydd chi.

Rydyn ni wedi gosod CCTV er mwyn:

  • Darparu amgylchedd diogel
  • Hybu iechyd a diogelwch staff ac ymwelwyr MAD Abertawe
  • Monitro diogelwch ein safle

Yn ogystal â bod yn ddibenion rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar eu cyfer, mae pob un o’r uchod yn rhesymau dilys i ni ddefnyddio a storio data personol hefyd.

Nid yw MAD Abertawe’n recordio sain. 

Cedwir y delweddau o’r system CCTV am 30 diwrnod.

Dim ond personél awdurdodedig caiff weld unrhyw wybodaeth a gesglir trwy’r CCTV. 

Ein DPO fydd yn cadw ac yn goruchwylio’r holl ddelweddau CCTV. Y DPO sy’n gyfrifol am gyflawni ein harchwiliadau o gydymffurfiaeth ac adolygu’r angen am CCTV.

Lle’r ydyn ni’n casglu eich data personol gan ddefnyddio CCTV, byddwn ni’n defnyddio arwyddion i roi gwybod i chi.

Mae gennych chi’r hawl i ofyn am gael gweld unrhyw ddata personol sy’n cael ei recordio ar ein CCTV. Bydd MAD Abertawe’n ymateb i geisiadau cyn pen 30 diwrnod calendr ar ôl i’r cais ddod i law. Caiff delweddau o unigolion eraill eu cuddio cyn rhyddhau’r data. 

Mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol:

  • yr hawl i gael gwybod sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio;
  • yr hawl i gyrchu’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch;
  • yr hawl i ofyn am gywiro gwybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch sy’n anghywir;
  • yr hawl i ofyn am ddileu eich gwybodaeth bersonol o dan amodau penodol cyfyngedig;
  • yr hawl i gyfyngu ar sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu lle bodlonir gofynion penodol;
  • yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol;
  • yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo elfennau o’ch data naill ai i chi neu i ddarparydd gwasanaeth arall;
  • yr hawl i wrthwynebu rhai prosesau penderfynu awtomataidd gan ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Dylid nodi na fydd rhai o’r hawliau hyn i wrthod yn berthnasol bob tro am fod gofynion ac eithriadau penodol ynghlwm wrthynt a hwyrach na fyddan nhw’n berthnasol i wybodaeth berthnasol sy’n cael ei chofnodi a’i storio yn ein system CCTV.

Mae rhagor o fanylion am eich hawliau cyfreithiol ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn https://ico.org.uk/for-the-public/ 

Er mwyn ymarfer yr holl hawliau perthnasol, neu gydag ymholiadau neu gwynion, dylech gysylltu yn gyntaf â’n Swyddog Diogelu Data trwy e-bostio rachel@madswansea.com neu trwy’r post d/o MAD Abertawe, 216 Y Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1PE.

 

Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113 neu trwy e-bostio https://ico.org.uk/global/contact-us/email/

Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd yma o bryd i’w gilydd. Fe’ch anogir i gyfeirio nôl am ddiweddariadau’n rheolaidd.